Contact

For further information regarding prosiectpenrhyn please feel free to contact me,

email: ahp001@bangor.ac.uk

tel: 01248 383599

Office Hours:     Monday & Wednesday 9-5,  ever other day 9-2

Advertisements

7 responses to “Contact

  1. Diddorol iawn. Mae gen i ddiddordeb mawr yn Chwarel Dinorwig. oes na bapurau tebyg yn perthyn i’r Vaynol ?
    Anita Butler

    • Diolch am eich diddordeb Anita.

      Oes mae yno gasgliad papurau i’r Vaynol hefyd. Mae yno gopi o’r catalog yma yn Archifdy Prifysgol Bangor, ond mae’r casgliad ei hyn yn cael ei ddal gan Archifdy Gwynedd yng Nghaernarfon (ar y doc, drws nesaf i’r Galeri).

      Mae dipyn o bapurau ynglun a chwarel dinorwig yn ymddangos yn y casgliad yma hefyd, yn enwedig llythyrau gan Vivian i E.A. Young (rheolwr Chwarel y Penrhyn) a chyfathrebu mwy personnol rhwng yr Asheton-Smiths ar Pennants. Mae’n ymddangos fod y ddwy chwarel wedi gweithio’n eitha agos hefo’i gilydd (gosod prisiau ayyb). Cadwch lygad a’r y blog i weld be arall ddaw i’r fei.

      Diolch eto am eich diddordeb, gobeithio i doi o hyd i fwy o stwff a fydd o ddiddordeb i chi. Hwyl am y tro, Catrin.

    • Oedd wir. Fedrai ddim helpu meddwl pam mor anodd oedd bywyd i deuluoedd yn y tai o amgylch fy un i ychydig droes gan mlynedd yn ol. Daw a deigryn i’m llygaid ambell waith, yn enwedig pan fyddai’n darllen cerddi fel hon, ag yn meddwl am fy mhlant fy hyn.

      Diolch am daflu golwg ar y blog!

  2. Rydw i wrthi’n edrych yn arwynebol iawn i fewn hanes Parc Meurig, Bethesda a tybed os ydych wedi cael hyd i dystiolaeth gellith taro goleuni ar tua pryd y planwyd y goedwig a pha Arglwydd Penrhyn oedd yn gyfirfol? Buaswn yn ddiolchgar iawn o gael unrhyw wybodaeth – diolch.

    • Annwyl Sian,

      Diolch am eich ymholiad.

      Er fod yno nifer o lythyrau yn y casgliad wedi eu hysgrifennu gan drigolion Bryn Meurig, nid wyf wedi dod ar draws unrhyw beth ynglun a phlannu coedwig ym Marc Meurig yn benodol. Er hynny, mae yno ddipyn o ohebiaeth ynglun a phlannu coedwigoedd ar y stad yn y cyfnod 1760-1800; yr amser bu i John Pennant ddechrau prynu tiroedd yng Ngogledd Cymru a’i fab Richard Pennant eu datblygu. Nid oedd gan John Pennnat deitl, ond ei fab Richard oedd yr Arglwydd Penrhyn cyntaf, teitl yn arglwyddiaeth Iwerddon i’w alluogi i eistedd fel AS i Lerpwl yn Nhy’r Cyffredin. Mae Richard fwyf enwog am fod yn y dyn a roddodd ddiwedd i ymgyrchoedd bychain i dyllu am lechi yn Nyffryn Ogwen, a chychwyn chwarel y Penrhyn.

      Felly er nad oes gen i unrhyw dystiolaeth gadarn, byswn yn tybio mai os y plannwyd y goedwig gan yr ystad, byddai mwy na thebyg wedi ei phlannu rhwng 1760-1800, fyddai yn gwneud synnwyr gan ei bod yn goedwig eithaf aeddfed o be dwi’n gofio. Os ydy’n goedwig hyn na hyn, byddai rhaid sbio ar gatalogau cynharch yr ystad sydd yma yn yr archifdy ym Mhrifysgol Bangor (dwi mond yn delio hefo’r cyfnod 1760 ymlaen).

      Gobeithio fod hyn o ddefnydd i chi, ymddiheuriadau na allaf gynnig unrhyw beth mwy cadarn.

      Diolch eto am eich diddordeb,
      Catrin

  3. Diolch Catrin.
    Mae hyn yn cydfynd gyda’r hyn roeddwn yn ei tybio, yn seiliedig ar y plannu coed derw y gwn i amdano, ar lethrau dyffryn Aber tua’r un adeg. Rydw i wrthi’n llunio panel gwybodaeth/dehongli a chyfeiriaf ynddo at ‘Arglwydd Penrhyn’ heb fanylu pa un!
    Rydw i wrth fy modd fy mod i wedi darganfod y prosiect hyn – rhywbeth mae nifer ohonom wedi son amdano ers amser. Edrychaf ymlaen at weld ffrwyth y llafur!

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s